Gweithgareddau / Activities

Diolch o galon i ddisgyblion Bl 9A Ysgol Uwchradd Bodedern am wirfoddoli i baentio meinciau ac offer yn y Parc Chwarae. Buont yn gweithio yn ddiwyd iawn yno ac mae’r parc yn edrych yn lliwgar iawn. Diolch i Ms Rowena Saunderson a Mrs Lisa Telford Jones am eu cynorthwyo a’u goruchwylio. 

A heartfelt thank you to Year 9A pupils from Bodedern Secondary School for volunteering to paint the benches and equipment in the Play Park. They worked very hard there and the Park looks very colourful. Thanks to Ms Rowena Saunderson and Mrs Lisa Telford Jones for their assistance and supervision. 

Bu disgyblion a phennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern, Mr Paul Jones, yn casglu sbwriel o gwmpas y Parc. Diolch iddynt.

Pupils and the headteacher of Bodedern Secondary School, Mr Paul Jones, collected litter around the Park. Many thanks to them all.


Hoffem ddiolch i Darren Boot, DU Construction a Simon o GMS am wirfoddoli i glirio y gordyfiant oedd yn ffrynt y fynwent, yr ochr chwith a’r dde. Braf yw cael gweld y coed unwaith eto a’r fynwent yn daclus.

We would like to thank Darren Boot, DU Construction and Simon from GMS for volunteering to clear the overgrowth in the front of the cemetery, both left and right side. It’s nice to see the trees once again and the cemetery tidy